Ysgolion Iach

Mae Ysgol Gynradd Penboyr yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ein nod yn Ysgol Penboyr yw helpu plant i dyfu i fod yn iach, yn ddiogel ac yn gyfrifol a dod yn ddinasyddion gweithredol ein cymuned a’r byd ehangach.

Mae saith pwnc iechyd gwahanol yr ydym ni fel ysgol yn mynd i’r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:

 Bwyd a Ffitrwydd

• Iechyd a Lles Meddwl ac Emosiynol

• Datblygiad Personol a Pherthynas

• Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau

• Amgylchedd

• Diogelwch

• Hylendid

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor Ysgol Iach yn gweithio tuag at Gam 6 Lleol yn y ddau faes hyn:-

Defnyddio Sylweddau a Chamddefnyddio

Iechyd a Lles Meddwl ac Emosioynol