Cefnogi Elusennau

Fel ysgol eglwys mae gennym ni ethos gref o ystyried eraill, yn arbennig y rhai hynny sy’n llai ffodus na ni, – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rydyn ni’n hyrwyddo diwylliant o helpu ac annog ein disgyblion i fod yn ymwybodol o’r anghenion trwy gefnogi nifer o elusennau mewn gweithgareddau codi arian yn ystod y flwyddyn. Rydyn ni’n cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol fel Plant mewn Angen, Comic Relief, Masnach Deg a thrychinebau naturiol fel Nepal, hadau i Affrica, Operation Christmas Child ac hefyd yn dangos ein diddordeb mewn elusennau lleol fel Plant Dewi a’r Ambiwlans Awyr.

Yn Ysgol Penboyr rydyn ni’n teimlo y gall ein cyfraniad bach helpu i wneud gwahaniaeth i eraill ac rydym yn falch ein bod yn ymdrechu i godi arian i’r achosion teilwng hyn.