Eglwys St Barnabas

St Barnabas Church

Mae Ysgol Penboyr ym mhlwyf Penboyr. Mae pump eglwys o fewn y grwp: Sant Llawddog, Penboyr a Sant Barnabas, Felindre ym mhlwyf Penboyr a Sant Celer, Llangeler, Capel Mair, Bancyffordd a Sant Iago, Rhos ym mhlwyf Llangeler.

Hanes Sant Barnabas a Sant Llawddog

Eglwys Sant Barnabas

Adeiladwyd Sant Barnabas ym 1863 ar dir a roddwyd gan Iarll Cawdor yn ddi-dâl.


Y pensaer oedd Mr David Brandon o Lundain. Mr James Rogers o Ddinbych y Pysgod oedd yr adeiladwr. Costiodd yr Eglwys £2000 i’w hadeiladu.

Mae’r eglwys wedi ei chysegru i Sant Barnabas gan fod pen-blwydd Iarll Cawdor ar yr un diwrnod â Sant Barnabas. 


Yn ddiweddar mae’r eglwys wedi cael llawr newydd, a gwres canolog a goleuadau, yn ogystal ag ail-osod mewnol. Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am Eglwys Sant Barnabas, gweler prosiect ‘Llannau’r Filltir Sgwâr’ mae plant Ysgol Penboyr wedi ei gynhyrchu.

Eglwys Sant Llawddog

Adeildadwyd Eglwys Sant Llawddog ar safle hynafol, sydd, yn debyg iawn, yn dyddio yn ôl i’r chweched ganrif.

Fe’i hail-adeiladwydyn helaeth yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd, trwy haelioni yr Rheithor ar y pryd, Archddiacon Thomas Beynon, aelod o’r grwp ogwmpas Iolo Morgannog, a fu’n yn gyfrifol am ddatblygu y traddodiad eisteddfodol modern. Mae’r eglwys yn cychwyn yn fuan ar rhaglen o waith cynnal a chadw.