CURRICULUM

Ein gweledigaeth ar gyfer maes Mathemateg a Rhifedd yw i ddatblygu disgyblion i fod yn hyderus wrth feddwl yn fathemategol, rhesymu a datrys problemau mewn ystod o gyd-destunau yn cynnwys bywyd go-iawn. Anogwn ein disgwyr i brofi ymdeimlad o lwyddiant a mwynhad wrth iddynt ymchwilio datrysiadau a gwneud cysylltiadau rhwng meysydd mathemategol. Byddyn yn sicrhau bod sgiliau mathemateg sylfaenol yn cael eu datblygu i fod yn gadarn er mwyn defnyddio a’u cymhwyso yn eu gwaith rhifedd ar draws y cwricwlwm. Bwriadwn gynnig cyd-destunau cyffrous ac amrywiol fel modd i ddatblygu gwydnwch a hyder i fentro ar amryw o ddulliau yn annibynnol.

Ein gweledigaeth ar gyfer maes Iechyd a Lles yw i feithrin dysgwyr hapus sy’n gallu wynebu heriau a chyfleoedd mewn bywyd a thrwy gydol oes. Byddwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd, iechyd meddwl, deiet cytbwys, gofal personol, lles emosiynol a chymdeithasol a sut y maent yn cydblethu. Anogwn ddysgwyr i reoli risg, mynegi syniadau ac emosiynu, datblygu a chynnal cyd-berthnasau iach ac i chwarae gwahanol rolau a derbyn gwahanol gyfrifoldebau. Wrth ddarparu strwythur holistaidd, byddwn yn cefnogi dysgwyr i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan gyflawn mewn gwaith a bywyd gydol oes.

Ein gweledigaeth ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw datblygu dysgwyr dwyieithog mewn byd amlieithog. Anelwn at ddatblygu ein dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol a hyderus gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys iaith arwyddo. Byddwn yn meithrin ymdeimlad o berthyn a balchder dros ein Cymreictod yn eu cynefin a’r byd ehangach. Wrth ddatblygu eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu i osod sylfaen gadarn ar gyfer meithrin dysgwyr gydol oes sy’n medru cyfathrebu;’n hyderus a chydag empathi at gyd-ddyn. Bwriadwn gyflwyno llenyddiaeth i’n dysgwyr sy’n tanio eu dychymyg ac ysbrydol creadigrwydd ar draws y cwricwlwm.

Ein gweledigaeth ar gyfer maes y Celfyddydau Mynegiannol yw i ysgogi ac ennyn diddordeb ein dysgwyr ac a ehangu eu gorwelion mewn sgiliau creadigol, artistig a’u sgiliau perfformio. Byddwn yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd a fydd o gymorth iddynt fanteisio ar bob cyfle yn eu bywydau gan wynebu’r heriau. Cynigwn gyfleoedd archwilio, mireinio a chyfathrebu syniadau gan feddwl yn greadigol sy'[n arwain at ymroddiad personol, dyfalbarhad a rhoi sylw manwl i fanylion er mwyn cyfoethogi eu bywydau. Bwriadwn ysbrydoli dysgwyr trwy ddarparu profiadau tu allan i’r dosbarth megis ymweld a theatrau ac orielau ac i ddod a’r arbenigwyr ac ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth. yn ogystal anelwn at ddatblygu dealltwriaeth o’u hunaniaeth diwylliannol eu hynain ynghŷd ȃ hunaniaeth ddiwyliannol pobl, lleoedd a chyfnodau eraill.